


Meithrin a Derbyn
Rydym wedi bod yn datblygu sgiliau personol a chymdeithasol; sut i fod yn ffrind da a’r pwysigrwydd o fod yn garedig wrth bawb. Yr ydym wedi cwrdd Dina y deinosor sy’n ymweld â’r dosbarth yn wythnosol i hybu ymddygiad da. Ffrind arall sydd gennym yn y dosbarth yw Tedi Gwrando. Bydd Tedi Gwrando yn dewis mynd adre’n ddyddiol hefo plentyn am wrando’n astud, bod yn garedig, rhannu teganau neu helpu eraill.
Ein thema y tymor yma yw ‘Cartrefi’
Rydyn ni wedi bod yn edrych ar gartrefi ac yn trafod ein cartrefi ein hunain. Cawsom hwyl yn edrych ar gartrefi anifeiliaid ac yn dyfalu pa anifail sy’n byw ym mha gartref!
Yn yr ardal adeiladu rydym wedi bod yn adeiladu tai amrywiol gyda blociau mawr.
Yr ydym wedi bod yn siarad am deulu a ffrindiau. Byddwn yn ymarfer ein sgiliau dal pensil a gan wneud lluniau o’n teuluoedd.
Tu allan buom yn chwilio am drychfilod a ble roeddent yn byw? Ble roedd y pry copyn yn byw? Ble roedd y wlithen yn byw? Hefyd buom yn chwarae amser te yn y tŷ bach twt yn yr ardd.
Yr ydym wedi bod yn ymgyfarwyddo gyda siapiau 2D ac yn dysgu eu henwi yn y Gymraeg. Cawsom hwyl yn dylunio tai amrywiol gan ddefnyddio cylchoedd, trionglau a sgwariau. Hwyl yn gludo!
Yn fuan, rydym yn mynd i wrando ar stori ‘Y tri Mochyn bach’ a byddwn yn dysgu mwy am gartrefi.
Byddwn yn ymweld â’r ardd fawr yn yr ysgol. Fe fyddwn yn darganfod y gwahanol blanhigion a ffrwythau sydd yn tyfu yno. Bydd rhaid coginio crymbl gyda’r afalau blasus!
Diolchgarwch- Yr ydym hefyd yn mynd i werthfawrogi ein cartrefi ac ein teuluoedd drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys canu ar y cyd. Rydym yn edrych ymlaen at ein profiadau!