


Dosbarth 1 a 2
Tymor yr Hydref
Ein thema tymor yma yw Cartrefi.
Rydym wedi bod yn edrych ar lyfr ‘Bric Bloc a bwced’ Rydym wedi disgrifio ein cartrefi a dysgu geirfa am yr ystafelloedd gan ddysgu ansoddeiriau. Hefyd rydym wedi dysgu am yr ardal leol gan ddysgu cyfeiriad eu cartref a dysgu am nodweddion Tywyn.
Yn yr ardal Greadigol bu’r disgyblion yn adeiladu cartrefi ac yn defnyddio pasteli i efelychu gwaith artist o Gymru. Rydym wedi creu graffiau a defnyddio Tgch i fwydo data a chreu graffiau.
Ar ol hanner tymor byddwn yn edrych ar chwedl Branwen. Edrychwn ymlaen i gael syniadau’r disgyblion.