Dosbarth 3 a 4

Thema Tymor yr Hydref: Cartrefi

Ein thema ni y tymor yma yw Cartrefi. Byddwn yn cymharu bywyd a chartrefi y Celtiaid a’r Rhufeiniaid a sut mae ein cartrefi wedi newid. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am drydan, ac am ynni adnewyddol. Dysgu am ein hardal fyddwn yn ein gwersi Daearyddiaeth, yn astudio mapiau OS lleol a chreu map mawr o’r dref fel dosbarth ac yn lleoli nodweddion pwysig arno. William Booth a Byddin yr Iachawdwriaeth fydd ffocws ein gwersi Addysg Grefyddol.

Byddwn hefyd yn dathlu diwrnod T Llew Jones, Shw’ mae, ac yn cynnal wythnos amgylcheddol.

Ein tro ni yn yr Adran Iau yw hi eleni i gynnal y cyngerdd Nadolig. Fe fydd llawer o waith paratoi a dysgu mae’n siwr