


Dosbarth 5 a 6
Thema Tymor yr Hydref: “Cwpan Rygbi’r Byd”
Ein thema y tymor yma ydy Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan. Roedd 20 gwlad yn cystadlu ac mi fuodd y disgyblion yn astudio y gwledydd hynny gan wneud cyflwyniadau amdanynt.
Rydym wedi astudio llawer am y wlad Japan. Fel rhan o syniadau ‘llais y disgybl’ buom yn astudio chwedl ‘Priodas y Llygod’ gan wneud sioe bypedau neu cyflwyniad ohoni i blant y Cyfnod Sylfaen. Cawsom gyfle i greu lluniau yn arddull ‘animé’ ac efelychu lluniau o goed ceirios unigryw Japan gyda phaent. Yn ogystal, lluniwyd areithiau i geisio perswadio y gystadleuaeth i ddod i Gymru. Cynhaliwyd twrnament rygbi tag Dalgylch ar Gae Rhianfa ble cafodd pob disgybl eu gosod mewn timau y gwledydd a daeth Canada i’r brig.
Daeth Danielle, mam disgybl blwyddyn 5, i mewn i siarad am ei hanes yn byw yn Japan am nifer o flynyddoedd.