Annwyl riant/gofalwr,

Cyhoeddwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru ddoe.  Roedd y datganiad yn cynnwys y paragraff isod.

Gyda lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn parhau i gynyddu ledled Cymru, ac ansicrwydd ynghylch pa effaith y gallai hynny ei chael ar lefelau staffio ysgolion dros gyfnod y Nadolig, bydd rhywfaint o hyblygrwydd ar ddechrau’r tymor. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth o hyd yw amharu cyn lleied â phosibl ar addysg ein plant a’n pobl ifanc, a dysgu wyneb-yn-wyneb ddylai ddigwydd yn ddiofyn oni bai bod rhesymau iechyd a diogelwch clir dros symud i ddysgu o bell.

Fel y gwyddoch, mae lefelau trosglwyddo’r haint yn parhau i fod yn gymharol ised yng Ngwynedd, felly ar hyn o bryd nid oes rhesymau iechyd a diogelwch clir dros symud i ddysgu o bell ym mis Ionawr.  O’r herwydd, bydd ysgolion Gwynedd ar agor i ddysgwyr ar ddechrau’r tymor.  Mae gan nifer o’n hysgolion ddiwrnod neu ddyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd wedi’u trefnu ar gyfer dechrau’r wythnos gyntaf, felly yn yr achosion hynny bydd yr ysgol ar agor ar y diwrnod canlynol.

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn eich diweddaru yn gyson pe byddai unrhyw newid i’r sefyllfa.

Diolch i chi i gyd am eich cydweithrediad, eich gofal o’ch plant a phobl ifanc ac am eich cefnogaeth i’w dysgu.

Mae hi’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn dal ati i gadw at y rheolau er mwyn cadw’n iach.

Cliciwch yma am wybodaeth ddefnyddiol er mwyn mwynhau Nadolig yn ddiogel gyda’ch teulu. Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Iach i chi i gyd.