Mawrdd 2019 Newyddion
Wythnos Cariad @ Iaith
I ddathlu’r wythnos bu disgyblion bl 3 a 4 yn creu cerddi acrostig am Dewi Sant. Fel rhan o waith celf y tymor y mae’r disgyblion wedi bod yn astudio lluniau Menywod Cymreig yr artist o Geredigion Ruth Jên ac yn efelychu ei harddull gan gynnwys rhai o hwiangerddi cyfarwydd Cymraeg.
Cafodd blwyddyn 5 a 6 hwyl yn creu gemau buarth. Cafwyd cystadleuaeth ym mhob dosbarth i weld pa un oedd y gorau, ac mae’r gêm fuddugol yn cael ei dangos i ysgolion y dalgylch.
Diwrnod y Llyfr
I ddathlu y diwrnod cafodd y disgyblion gyfle i ddod i’r ysgol wedi gwisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. Hefyd daeth y plant a llyfrau darllen i’r ysgol i’w gwerthu ac roedd y plant wrth eu boddau yn mynd i’r ffair lyfrau ail law i brynu llyfr.
Ffair Wyddoniaeth
Mynychodd disgyblion blwyddyn 5/6 Ffair Wyddoniaeth a gynhaliwyd yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Cawsant gyfle i arbrofi a dysgu am wahanol agweddau mewn gwyddoniaeth. Roedd yna stondinau amrywiol i’r disgyblion gael profiadau ymarferol, byw.
NSPCC
Cafodd y plant gyflwyniad bywiog a buddiol gan Rhian o’r NSPCC. Byrdwn y neges oedd yr angen i ddweud wrth rhywun os oedd rhywbeth yn eu poeni. Wrth siarad, mae problem yn lleihau. Cafodd blwyddyn 5/6 weithdy yn y prynhawn i drafod prif negeseuon y cyflwyniad drwy weithgareddau amrywiol. Diolch i Rhian am ei hamser ac i NSPCC am yr adnoddau.
Eisteddfod Cylch yr Urdd, Dysynni
Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae llawer hefyd wedi cael llwyddiant yn y celf a chrefft.