Gobeithio eich bod chi a chymuned yr ysgol yn cadw’n iawn ac yn ddiogel.
Ymhellach i gyhoeddiadau diweddar yn Lloegr am ysgolion yn ailagor, teimlwn ei bod yn bwysig ein bod yn ysgrifennu atoch i roi gwedd gliriach ar y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir y bydd unrhyw benderfyniad ar ailagor ysgolion yng Nghymru yn cael ei lywio gan y cyngor gwyddonol diweddaraf un, ac y bydd y penderfyniad hwn ar sail bodloni pum egwyddor allweddol:

  1. diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff
  2. cyfraniad parhaus i’r ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i atal lledaeniad COVID-19
  3. cael hyder rhieni, staff a myfyrwyr, ar sail tystiolaeth a gwybodaeth, fel y gallant gynllunio i’r dyfodol
  4. y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar bwyntiau allweddol, gan gynnwys y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig
  5. bod yn gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, bod ag arweiniad mewn lle i gefnogimesurau megis ymbellhau, rheoli presenoldeb a chamau gwarcheidiol ehangach.

Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd yn ei haraith mai y hi fyddai’n gwneud unrhyw gyhoeddiad am ailagor ysgolion, ac y byddai’n gwneud hynny ymhell ymlaen llaw er mwyn rhoi amser i bawb gynllunio ar gyfer y cam nesaf. Ar hyn o bryd, nid yw’r sefyllfa yng Nghymru wedi newid ac nid oes disgwyl i ysgolion ailagor ar 1 Mehefin. Felly, byddwn yn eich cynghori i anwybyddu unrhyw negeseuon a rennir gan naill ai San Steffan neu gwmnïau masnachol gydag ysgolion yn Lloegr.

Hoffem hefyd achub ar y cyfle i’ch sicrhau y byddwn yn gweithio’n agos ac yn effeithiol gyda chi a’ch awdurdod lleol pan ddaw cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i ailagor ysgolion, a hynny er mwyn sicrhau pontio mor llyfn ag y bo modd.
Mae gwaith ar y gweill mewn partneriaeth efo swyddogion awdurdod lleol i ddatblygu fframwaith rhanbarthol fydd yn sicrhau bod ysgolion yn cael cefnogaeth gynhwysfawr gyda’r gwaith o ailagor. Bydd y Fframwaith yn cynnwys asesiadau risg a pholisïau/canllawiau drafft, yn rhoi sylw i ystod o feysydd i ysgolion eu hystyried a’u datblygu. Bydd dull gweithredu rhanbarthol hefyd yn rhoi hyder i staff, disgyblion a rhieni y bydd cysondeb a thegwch yn sut y bydd addasu ysgolion yn cael ei reoli.

Gobeithio y bydd yr wybodaeth a rennir uchod yn ddefnyddiol.
Byddwn yn rhoi arweiniad pellach wrth i’r sefyllfa ddatblygu.