Cyfleusterau

Mae gan Ysgol Penybryn draddodiad gwych o addysgu wedi ei gyfuno gyda’r dechnoleg ddiweddaraf o ran addysgu a dysgu.  Mae’r amgylchedd addysgol yma yn Ysgol Penybryn yn berffaith ar gyfer camau cyntaf eich plentyn i mewn i addysg.

Mae’r ysgol wedi ei hadnewyddu’n llwyr ac mae gan bob dosbarth offer technoleg gwybodaeth ac mae llyfrgell wedi ei lleoli ym mhob dosbarth. Mae neuadd fawr yn yr ysgol, gyda lle ar wahân ar gyfer cinio. Mae gennym gyfleusterau newid ar gyfer gwersi addysgol gorfforol. Mae gardd yr ysgol yn rhoi cyfle i’r plant ddysgu am arddio, amgylcheddau, a gofalu am natur.  Rydym yn derbyn plant 3-11 oed.

Amgylchedd yr Ysgol

Mae ystafelloedd dosbarth ac adeiladau’r ysgol, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac sydd wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer anghenion yr ysgol, yn rhoi i ddisgyblion Ysgol Penybryn yr amgylchedd gorau i ddysgu ar lefel gynradd. Mae gan ddisgyblion fynediad at y dechnoleg iPad a sgrîn gyffwrdd ddiweddaraf a chânt wneud defnydd llawn o neuadd newydd yr ysgol.

Y Tu Allan i’r Dosbarth

Lleolir Ysgol Penybryn yn gyfleus yng nghanol Tywyn, Gwynedd, sy’n ei gwneud yn hawdd i’r gymuned leol gyrraedd ati.  Mae ei hwyneb traddodiadol sy’n wynebu’r ffordd yn cuddio ysgol fawr, fodern.  Wrth fynd ymhellach i mewn i’r ysgol, gwelir gofod mawr ac eang iawn gyda chaeau chwarae a phêl-droed.  Mae gan Ysgol Penybryn hefyd ardd i’r disgyblion, lle anogir y plant i dyfu eu blodau a’u planhigion eu hunain.

Mae’r clybiau ar ôl ysgol yn cynnwys Campau’r Ddraig ac Urdd i flynyddoedd 3-6, Clwb Cyw i flynyddoedd 1 a 2, Clwb Gwyrdd i flynyddoedd 3-6.  Yn achlysurol, cynhelir Clwb Perfformio ar ôl ysgol. Mae gweithgareddau’r Urdd yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol.