Croeso

Croeso i’r Wefan. Mae hwn yn gyfrwng pwysig i ni fel cymuned ysgol i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn gyflym gyda chi fel rhieni, ac i gyfeillion eraill sydd â diddordeb yn yr ardal ar draws y byd i gyd. Gobeithio byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol ac y byddwch yn mwynhau dysgu am waith yr ysgol y plant a’r gymuned sydd ynddi.

Os ydych eisiau gwybodaeth o wefan Awdurdod Addysg Gwynedd. Dyma’r ddolen gyswllt i Ysgolion Gwynedd – cliciwch yma.

Os ydych eisiau dolen gyswllt i safle wybodaeth o Adran Addysg Llywodraeth Cymru Dyma’r ddolen gyswllt i safle Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru – cliciwch yma.

Croeso gan y Pennaeth

Crewyd y safwe yma gyda’r bwriad o roi darlun cyflym o’r ysgol. Mae’n gymysgwch o wybodaeth sydd yn angenrheidiol ond sydd hefyd yn gymorth i blant a rhieni.

Credaf yn gryf na all unrhyw safwe pa mor bynnag dda ei diwyg roi y darlun gorau o’r ysgol a’r gwaith sydd yn digwydd ynddi. Rwy’n falch pob amser i ddangos i ymwelwyr yr hyn sydd yn cael ei gynnig yma. Hyderwn wrth wneud hyn byddwch yn sylweddoli ein ewyllys i gael pob plentyn yn cyflawni hyd eithaf eu gallu mewn awyrgylch gyfforddus, gofalus a disgybledig lle mae’r addysg wedi ei gyfoethogi gyda phrofiadau creadigol, symbylus ac amrywiol.

Os hoffech gyfarfod â ni mae croeso i chi gysylltu â swyddfa’r ysgol i wneud apwyntiad. Yn y cyfamser hyderaf bod y wefan yn rhoi blas i chi o’r ysgol a’n balchder ohonni.

Menna Wynne-Pugh
Pennaeth