Adref Cymraeg

Adnodd Selog i ddysgu adref yw hwn, gyda sawl math o deulu mewn golwg gan gynnwys teuluoedd:

  • di-Gymraeg ble mae’r plant yn methu ar y cyfle i barhau gyda’u haddysg Gymraeg drwy’r ysgol,
  • ble mae’r rhiant yn gweithio o adref a heb amser i addysgu nac yn wir i roi llawer o sylw i’r plant ar adegau,
  • Cymraeg iaith-gyntaf sy’n awyddus i gael adnoddau Cymraeg strwythuredig ond heb yr amser i fynd i chwilio ym mhob man,
  • ble mae niferoedd y plant neu brysurdeb gofal ychwanegol yn ormod o bwysau eisoes, cyn dechrau meddwl am gynllunio dysgu.

Mae’r cynllun yn fras at ddefnydd teuluoedd gyda phlant oed cynradd neu iau. Gosodir y gwaith mewn bandiau, heb bennu oed penodol gan fod datblygiad a mynediad at y Gymraeg pob plentyn yn wahanol. Dylid anelu i gael plant yn gweithredu yn y bandiau melyn a gwyrdd yn lled annibynnol, gan fod sgiliau gweithio’n annibynnol yn un o dargedau addysg. Fodd bynnag, yn y bandiau glas, mae galw am fwy o sylw i’r plant oed cyn-ysgol, yn ogystal ag i’r gweithgareddau teulu. Pwrpas rhain yw cyfleoedd cydweithio, cyfathrebu a hefyd i wrando ar lais y plentyn wrth iddynt resymu a datblygu sgiliau cyflwyno syniadau, gwrando ar eraill, ac addasu eu dadleuon (nid oes atebion cywir i ‘Seiat Selog’ – rhywbeth ysgafn gellid ei gadw tan amser bwyd).

Wythnos 1
Wythnos 2
Wythnos 3
Wythnos 4
Wythnos 5
Wythnos 6
Wythnos 7
Wythnos 9
Wythnos 11