TREFNIADAU NEWYDD AR GYFER CEFNOGI PLANT A PHOBL IFANC GYDAG ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
Mae’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau yng Nghymru yn newid. O fis Medi 2021, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd, symlach a mwy ymatebol o ddiwallu anghenion plant gydag anghenion addysgol neu anableddau arbennig. Mae’r system newydd yn rhoi’r dysgwr wrth galon popeth sy’n digwydd. Bydd y cyfnod gweithredu yn digwydd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Hoffwn godi ymwybyddiaeth o’r negeseuon allweddol sy’n ymwneud â’r newidiadau hyn a’r hyn y maent yn ei olygu i chi.
Prif Negeseuon:
- Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei ddefnyddio yn lle’r termau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac Anawsterau ac Anableddau Dysgu (AAD). Dim ond pan fydd angen rhoi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) i gefnogi ei addysg y bydd plentyn yn cael ei nodi fel ADY.
- Bydd Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig bellach yn cael eu galw’n Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Bydd y cod newydd yn cynnwys plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Mae hynny’n golygu y bydd blynyddoedd cynnar, colegau addysg bellach a cholegau annibynnol arbenigol pellach nawr yn cael eu cynnwys hefyd (ond nid addysg uwch na phrentisiaethau.)
- Bydd pwyslais ar ddyheadau uchel a chanlyniadau gwell ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY.
- Bydd system raddoledig o weithredu blynyddoedd cynnar, gweithredu blynyddoedd cynnar a mwy a datganiadau yn diflannu, a bydd pob plentyn sydd ag ADY yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y CDU yn cymryd lle pob cynllun unigol arall. Bydd y CDU ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.
- Bydd system raddoledig gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiadau yn diflannu, a bydd pob plentyn sydd ag ADY yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y CDU yn cymryd lle Cynlluniau Addysg Unigol (CAU), Cynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) neu Gynlluniau Chwarae Unigol (CChU.)
- Bydd y mwyafrif o Gynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu cynnal gan yr ysgol, ond pan ystyrir ei bod yn afresymol i’r ysgol wneud hynny, mae’n bosibl y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu cynnal nhw.
- Bydd mwy o gyfle i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr gyfrannu at y broses o greu a chynnal Cynlluniau Datblygu Unigol drwy gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Y gobaith yw y dylai cydweithredu agosach a chydweithio mewn partneriaeth helpu i osgoi anghytundebau.
- Bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau darpariaeth yn y Gymraeg os oes angen.
- Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd â Chynllun Datblygu Unigol hawl cyfartal i apelio i’r Tribiwnlys.
Eleni, bydd asiantaethau’n gweithio ar y cyd i rannu gwybodaeth bellach gyda chi a rhoi sicrwydd am y rhaglen drawsnewid.
Os hoffech ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
https://llyw.cymru/anghenion-dysgu-ychwanegol-anghenion-addysgol-arbennig
Os hoffech chi unrhyw wybodaeth neu gyngor ychwanegol, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ysgol eich plentyn; Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol sefydliad blynyddoedd cynnar eich plentyn, neu cysylltwch â SNAP Cymru sy’n cynnig cyngor a chymorth annibynnol yn rhad ac am ddim i rieni drwy ymweld â: www.snapcymru.org neu ffoniwch eu llinell gymorth ar: 0808 801 0608
Gobeithio y bydd yr wybodaeth yn y llythyr hwn yn ddefnyddiol i chi ac y byddwch yn ymuno â mi fy hun ac Awdurdodau Lleol i groesawu’r system newydd.
Yr eiddoch yn gywir
Helen Smith
Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, Rhanbarth Gogledd Cymru