Ymweliad â Chaerdydd

Daeth yr amser unwaith eto i ddisgyblion flwyddyn 6 ymweld â Chaerdydd fel rhan o waith y tymor yn cymharu ardaloedd yng Nghymru.  Cafwyd tri diwrnod prysur a heulog yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd.  Llenwyd y dyddiau gyda ymweliadau â Techniquest, Canolfan y Mileniwm, Stadiwm Principality, Y Cynulliad, taith cwch yn y bae, taith bws o amgylch y ddinas, Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr, yn ogystal a disgo a bowlio deg fin nos. Tra yn y cynulliad, daeth Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ein haelod Cynulliad i gael sgwrs.  Profiadau gwych i’r disgyblion.